Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.

Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/

Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com

ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Tuesday, November 16, 2010

CEFNOGAETH

Cytuna Cyfeillion Llyn yn llwyr gyda chi fod ysgolion lleol yn bileri sylfaenol pob cymdeithas.
O`i colli, ni all dim ond niwed ddilyn
Yr ydym ninnau`n methu deall pam y mae`r ysfa hon i gau ysgolion llewyrchus wedi gafael yn rhai o gynghorwyr ein Sir.
Gofynnwch a ydym yn cydweld a`ch safbwynt. Yr ateb yw,Ydym, hyd yr ymylon.
Mae Cyfeillion Llyn, o ardal Gymraeg a Chymreig gyffelyb i Benllyn mewn llawer ystyr, yn eich cefnogi i`r carn yn eich brwydr.
          Dr Robyn Lewis.
         Llywydd Cyfeillion Llyn.

No comments:

Post a Comment