Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.

Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/

Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com

ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Thursday, January 27, 2011

PWYLLGOR AMDDIFFYN

Bydd y Pwyllgor Amddiffyn nesaf yn cyfarfod
Nos Lun Ionawr 31 am 7.30
Pethau pwysig i`w trafod, dewch yn brydlon.

Wednesday, January 26, 2011

Active workers

Michaela and Nick Andrews are naturally proud of their
children as are we all.
Both parents are active supporters of our Community
and the campaign to keep Ysgol y Parc Open.

Llwyddiant

Llongyfarchiadau i Charlie a Harry Andrews ar ei llwyddiant mewn cystadlaethau go-cart yn ddiweddar.
Daeth Charlie a Harry i fyw i'r Parc dros 5 mlynedd yn ol
o Redditch. Mae'r ddau yn rhugl yn y Gymraeg.
Cawsant eu cyfweld ar raglen S4C Fy Niwrnod Mawr.
Mae Charlie yn ddisgybl yn Ysgol y Parc ac mae Harry
wedi symyd mlaen i Ysgol y Berwyn ers mis Medi 2010.

Tuesday, January 25, 2011

YMGYRCH YR IAITH

Bu nifer o blant ac oedolion y Parc yn Rali Tynged Yr Iaith 2
ym Mlaenau Ffestiniog dydd Sadwrn diwethaf.
Yng ngwyneb y bygwth sydd ar ein cymunedau gwledig a`n hysgolion
bach ar hyn o bryd,mae trigolion y Parc yn falch o fedru cefnogi
ymgyrch ymarferol fel hon.

Monday, January 24, 2011

LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchion i Elin Haf ar ennill gradd Doethur Mewn Asesu
Atacsia mewn plant sy`n dioddef o Anhwylderau Metabolig.
Cwblhawodd Elin ei gradd ym Mhrifysgol Llundain.
Mae pawb yn y Parc yn falch iawn o`i llwyddiant.
Rwan bydd yn ail-gydio yn ei gwaith gyda`r European Medicine
Evaluation Group, sy`n datblygu moddion a chyffuriau arbenigol
ar gyfer plant.
Llwyddiant mawr, i un o gyn ddisgyblion Ysgol Fach y Parc.

Wednesday, January 12, 2011

BETH NAD YW``r SWYDDOGION YN EI DDEALL?

Tristwch mawr oedd gweld bod y ffeithiau anghywir a gywirwyd
droeon gennym ni mewn cyfarfodydd cynt yn dal i gael eu hail adrodd.
Dylai pob Cynghorydd Sir gael y ffeithiau cywir o`i flaen CYN pleidleisio.
Sut all neb lunio barn gytbwys heb gael y ffeithiau cywir?

CYFARFOD NOS LUN IONAWR 10

Cafwyd cyfarfod tymhestlog gyda Swyddogion y Pwyllgor Addysg
Diddorol bod 12 wedi dod o`r Swyddfa i`r sesiwn cyntaf.
Arhosodd 9 i`r ddau sesiwn dilynnol.
Llawn iard o geir, ac ar ba gost?
Dewch nawr, MAE posib rhannu ceir, onid oes?.

Tuesday, January 11, 2011

YSGOL Y PARC YN DAL I FRWYDRO

Dyma ddau ddatganiad diddorol ...

1. Leighton Andrews,Gweinidog Addysg y Cynulliad yn dweud yn ddiweddar
"Na ddylid cau unrhyw ysgol os na fyddai hynny`n darparu cyfleusterau Addysg,Profiadau Cymunedol,Ieithyddol a Chymdeithasol CYSTAL os nad GWELL
na`r ddarpariaeth bresennol."

2. Gareth Jones, Cadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu y Cynulliad,
"Nid dyma`r adeg i gau ysgolion(Golwg 18.7.10).Nid oes digon
o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion ehangach cymunedau mewn
cynlluniau ad-drefnu addysg. Y nod ydy nid yn unig sicrhau bod
ysgolion yn aros yn agored ,ond hefyd yn cael eu datblygu fel
canolfannau i`r Cymunedau - nid addysg ydy`r unig wasanaeth
cyhoeddus y medrwch chi ei leoli mewn ysgolion."

Trueni na fyddai Swyddogion Addysg Gwynedd yn talu sylw i rai sydd a phrofiad ym myd addysg.

Sunday, January 9, 2011

CYWIRO CAMGYMERIADAU SWYDDOGION ADDYSG GWYNEDD

Rydym wedi cywiro`r rhain sawl gwaith o`r blaen
Daeth y ddogfen Cadarnhau Cychwyn yr Ymgynghoriad Statudol,Rhagfyr 2010.
A`R UN CAMGYMERIADAU`N YMDDANGOS ETO.
1. Cost cludo plant o`r Parc i Lanuwchllyn = £15,000 medde nhw.
Y gwir ffigwr yw £20,000 am UN bws mini yn unig.
A hynny CYN y codiad diweddaraf ym mhris petrol.

2.Tair milltir yw`r pellter o`r Parc i Lanuwchllyn, medde nhw.
Ie, o giat ysgol y Parc,ond NID o gartrefi`r plant.

Mae`r ffeithiau cywir wedi eu rhoi iddynt.
Pam nad ydynt yn gwrando?
Yr ydym yn haeddu gwell na hyn gan swyddogion sy`n trefnu addysg ein
plant.

Wednesday, January 5, 2011

CYFARFOD PWYSIG

CYFARFOD PWYSIG
yn
YSGOL Y PARC
Nos Lun, Ionawr 10
am 7 o`r gloch.
Dewch i ddangos cefnogaeth i`r ymgyrch i gadw`r ysgol.
Mynnwn gadw Ysgol y Parc ar agor er lles y plant, a`r gymuned.