Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.

Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/

Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com

ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Thursday, March 17, 2011

FFAITH BWYSIG

Yn wahanol i beth mae`r Cyngor a`r cyfryngau yn ei ddweud, NID
YW`N WIR bod Ysgol y Parc yn cau yn 2012.
Rhaid i`r mater fynd o flaen y Cyngor llawn eto ym mis Mai.
OS bydd y cyngor yn pleidleisio o blaid cau bydd y penderfyniad wedyn yn mynd o flaen y Cynulliad.
Mae cyfle i ni wrthdystio wedyn i`r Cynulliad.
Mae`r broses ymhell o fod wedi dod i ben.
Mae dweud fel arall yn HOLLOL ANHEG ac yn GAMARWEINIOL.

Pwyllgor brys

Bydd pwyllgor brys yn cwrdd yn Rhosfedw nos Iau
am 8 o`r gloch. Gwelaf chwi yno.Mae`r frwydr yn parhau.

Friday, March 11, 2011

Y PWYLLGOR AMDDIFFYN

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu, bydd ein Pwyllgor
Amddiffyn yn cyfarfod yn y neuadd gymunedol
am 7.30 o`r gloch.Mawrth 15.

CYARFOD BWRDD Y CYNGOR

Dydd Mawrth, 15 o Fawrth.
Bydd nifer o rieni ac ardalwyr yn mynd draw i Gaernarfon
i ddangos ein cefnogaeth i`r ysgol ac i`n cynghorwyr lleol.
Os am ymuno, cysylltwch gydag un o aelodau`r pwyllgor.

Amau Gwenidog

Be ddigwydd nesaf dwedwch !
Wrth gerdded i mewn i`r oriel gyhoeddus i wrando ar
drafodaeth y Pwyllgor Craffu, dywedodd ysgrifenyddes wrth
aelod parchus iawn o fysg cynrychiolwyr ein cymuned fach
ei bod yn gobeithio nad oedd ganddi rywbeth amheus yn ei bag !!
Cafodd ateb parod gan y Parchedig Cath --- mai dim ond Beibl
fuasai hi`n ei gario yn ei bag.
Doniol, ynteu di-ofyn amdano?
Yn sicr nid lle ysgrifenyddes oedd holi fel hyn.
Ac os oes polisi gan Gyngor Gwynedd i holi am gynnwys bagiau,
onid wrth y drws allanol y dylid gwneud?

Wednesday, March 9, 2011

GWYRTH

O`r cyngor
Llais 1: Mae dau o blant ddaeth i Ysgol y Parc o Loegr erbyn
hyn wedi dysgu siarad Cymraeg yn rhygl.
Llaus 2 :Dydy hynny`n ddim, mae teulu wedi dod i Gaernarfon o
Rwsia, ac fe ddysgodd y plant Gymraeg mewn pythefnos.

Ydy wir, mae`n amlwg bod "gwyrthiau`r Arglwydd " yn dal i`w
gweld "Ar lannau`r Fenai dlawd"

Monday, March 7, 2011

PWYLLGOR PWYSIG

Cofiwch am y Pwyllgor Amddiffyn
Nos Fawrth Mawrth 8, am 7.30
Materion pwysig i`w trafod. .

R`UM NI YMA O HYD !!

Bu rhai ohnom yn y Pwyllgor Craffu ---unwaith eto.
Y tro hwn. dim ond 3 pleidlais oedd ynddi.
Tair pleidlais sy`n golygu difetha cymuned Gymreig.
OND RYDYM YN DAL I FRWYDRO, dros ein plant,a thros
ein cymuned.

Tuesday, March 1, 2011