Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.

Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/

Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com

ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Sunday, June 5, 2011

Deiseb i'w arwyddo

A fyddai pawb cystal ag arwyddo'r ddeiseb isod ar ran ysgolion bach Gwynedd os gwelwch yn dda.

http://www.assemblywales.org/gethome/e-petitions/ epetition-list-of-signatories.htm?pet_id=574

Friday, May 20, 2011

Y TRI GWRON

Dymunwn ddiolch i`r tri gwron sy`n ein cynrychioli ar
Gyngor Gwynedd,ac wedi gweithio mor galed drosom.Mae`r
Cynghorwyr Elwyn Edwards, Dylan Edwards, ac Alun Jones Evans
i`w canmol am sefyll yn gadarn dros gadw ein hysgol ar agor,
ac amddiffyn ein cymuned.
Mae`n atgoffa rhywun am y tri llanc yn y ffwrn dan !
Ac fe fyddant yn dal i frwydro gyda ni yn y cyfnod nesaf.

RY`M NI YMA O HYD

Er gwaethaf penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau
Ysgol Gymunedol y Parc,rydym am ddatgan yn glir
NID YW`R FRWYDR AR BEN.
Awn ymlaen i ymladd ein hachos o flaen y Cynulliad
Dyna fydd y cam nesaf,OS caiff Cyngor Gwynedd yr arian
mae nhw`n gobeithio ei gael.
Diolch i Fred Francis am ei safiad dewr.Gallwch ddarllen
amdano, a gweld lluniau o blant y Parc ar Youtube.
Ewch ar www.youtube.com
Yna rhoi Ympryd dwr Fred i mewn.
Ymlaen a`r frwydr !

Thursday, March 17, 2011

FFAITH BWYSIG

Yn wahanol i beth mae`r Cyngor a`r cyfryngau yn ei ddweud, NID
YW`N WIR bod Ysgol y Parc yn cau yn 2012.
Rhaid i`r mater fynd o flaen y Cyngor llawn eto ym mis Mai.
OS bydd y cyngor yn pleidleisio o blaid cau bydd y penderfyniad wedyn yn mynd o flaen y Cynulliad.
Mae cyfle i ni wrthdystio wedyn i`r Cynulliad.
Mae`r broses ymhell o fod wedi dod i ben.
Mae dweud fel arall yn HOLLOL ANHEG ac yn GAMARWEINIOL.

Pwyllgor brys

Bydd pwyllgor brys yn cwrdd yn Rhosfedw nos Iau
am 8 o`r gloch. Gwelaf chwi yno.Mae`r frwydr yn parhau.

Friday, March 11, 2011

Y PWYLLGOR AMDDIFFYN

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu, bydd ein Pwyllgor
Amddiffyn yn cyfarfod yn y neuadd gymunedol
am 7.30 o`r gloch.Mawrth 15.

CYARFOD BWRDD Y CYNGOR

Dydd Mawrth, 15 o Fawrth.
Bydd nifer o rieni ac ardalwyr yn mynd draw i Gaernarfon
i ddangos ein cefnogaeth i`r ysgol ac i`n cynghorwyr lleol.
Os am ymuno, cysylltwch gydag un o aelodau`r pwyllgor.

Amau Gwenidog

Be ddigwydd nesaf dwedwch !
Wrth gerdded i mewn i`r oriel gyhoeddus i wrando ar
drafodaeth y Pwyllgor Craffu, dywedodd ysgrifenyddes wrth
aelod parchus iawn o fysg cynrychiolwyr ein cymuned fach
ei bod yn gobeithio nad oedd ganddi rywbeth amheus yn ei bag !!
Cafodd ateb parod gan y Parchedig Cath --- mai dim ond Beibl
fuasai hi`n ei gario yn ei bag.
Doniol, ynteu di-ofyn amdano?
Yn sicr nid lle ysgrifenyddes oedd holi fel hyn.
Ac os oes polisi gan Gyngor Gwynedd i holi am gynnwys bagiau,
onid wrth y drws allanol y dylid gwneud?

Wednesday, March 9, 2011

GWYRTH

O`r cyngor
Llais 1: Mae dau o blant ddaeth i Ysgol y Parc o Loegr erbyn
hyn wedi dysgu siarad Cymraeg yn rhygl.
Llaus 2 :Dydy hynny`n ddim, mae teulu wedi dod i Gaernarfon o
Rwsia, ac fe ddysgodd y plant Gymraeg mewn pythefnos.

Ydy wir, mae`n amlwg bod "gwyrthiau`r Arglwydd " yn dal i`w
gweld "Ar lannau`r Fenai dlawd"

Monday, March 7, 2011

PWYLLGOR PWYSIG

Cofiwch am y Pwyllgor Amddiffyn
Nos Fawrth Mawrth 8, am 7.30
Materion pwysig i`w trafod. .

R`UM NI YMA O HYD !!

Bu rhai ohnom yn y Pwyllgor Craffu ---unwaith eto.
Y tro hwn. dim ond 3 pleidlais oedd ynddi.
Tair pleidlais sy`n golygu difetha cymuned Gymreig.
OND RYDYM YN DAL I FRWYDRO, dros ein plant,a thros
ein cymuned.

Tuesday, March 1, 2011

Friday, February 18, 2011

Lluniau'r Cyngerdd Nadolig

Dramau y Parc

Mae prysurdeb mawr wedi bod yn y Parc ers sawl wythnos.
Dewch i fwynhau pedair drama nos Iau a nos Wener 24-25
o Chwefror yn y Neuadd am 7.30.
Dwy noson hwyliog iawn, dewch i gefnogi.

Thursday, January 27, 2011

PWYLLGOR AMDDIFFYN

Bydd y Pwyllgor Amddiffyn nesaf yn cyfarfod
Nos Lun Ionawr 31 am 7.30
Pethau pwysig i`w trafod, dewch yn brydlon.

Wednesday, January 26, 2011

Active workers

Michaela and Nick Andrews are naturally proud of their
children as are we all.
Both parents are active supporters of our Community
and the campaign to keep Ysgol y Parc Open.

Llwyddiant

Llongyfarchiadau i Charlie a Harry Andrews ar ei llwyddiant mewn cystadlaethau go-cart yn ddiweddar.
Daeth Charlie a Harry i fyw i'r Parc dros 5 mlynedd yn ol
o Redditch. Mae'r ddau yn rhugl yn y Gymraeg.
Cawsant eu cyfweld ar raglen S4C Fy Niwrnod Mawr.
Mae Charlie yn ddisgybl yn Ysgol y Parc ac mae Harry
wedi symyd mlaen i Ysgol y Berwyn ers mis Medi 2010.

Tuesday, January 25, 2011

YMGYRCH YR IAITH

Bu nifer o blant ac oedolion y Parc yn Rali Tynged Yr Iaith 2
ym Mlaenau Ffestiniog dydd Sadwrn diwethaf.
Yng ngwyneb y bygwth sydd ar ein cymunedau gwledig a`n hysgolion
bach ar hyn o bryd,mae trigolion y Parc yn falch o fedru cefnogi
ymgyrch ymarferol fel hon.

Monday, January 24, 2011

LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchion i Elin Haf ar ennill gradd Doethur Mewn Asesu
Atacsia mewn plant sy`n dioddef o Anhwylderau Metabolig.
Cwblhawodd Elin ei gradd ym Mhrifysgol Llundain.
Mae pawb yn y Parc yn falch iawn o`i llwyddiant.
Rwan bydd yn ail-gydio yn ei gwaith gyda`r European Medicine
Evaluation Group, sy`n datblygu moddion a chyffuriau arbenigol
ar gyfer plant.
Llwyddiant mawr, i un o gyn ddisgyblion Ysgol Fach y Parc.

Wednesday, January 12, 2011

BETH NAD YW``r SWYDDOGION YN EI DDEALL?

Tristwch mawr oedd gweld bod y ffeithiau anghywir a gywirwyd
droeon gennym ni mewn cyfarfodydd cynt yn dal i gael eu hail adrodd.
Dylai pob Cynghorydd Sir gael y ffeithiau cywir o`i flaen CYN pleidleisio.
Sut all neb lunio barn gytbwys heb gael y ffeithiau cywir?

CYFARFOD NOS LUN IONAWR 10

Cafwyd cyfarfod tymhestlog gyda Swyddogion y Pwyllgor Addysg
Diddorol bod 12 wedi dod o`r Swyddfa i`r sesiwn cyntaf.
Arhosodd 9 i`r ddau sesiwn dilynnol.
Llawn iard o geir, ac ar ba gost?
Dewch nawr, MAE posib rhannu ceir, onid oes?.

Tuesday, January 11, 2011

YSGOL Y PARC YN DAL I FRWYDRO

Dyma ddau ddatganiad diddorol ...

1. Leighton Andrews,Gweinidog Addysg y Cynulliad yn dweud yn ddiweddar
"Na ddylid cau unrhyw ysgol os na fyddai hynny`n darparu cyfleusterau Addysg,Profiadau Cymunedol,Ieithyddol a Chymdeithasol CYSTAL os nad GWELL
na`r ddarpariaeth bresennol."

2. Gareth Jones, Cadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu y Cynulliad,
"Nid dyma`r adeg i gau ysgolion(Golwg 18.7.10).Nid oes digon
o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion ehangach cymunedau mewn
cynlluniau ad-drefnu addysg. Y nod ydy nid yn unig sicrhau bod
ysgolion yn aros yn agored ,ond hefyd yn cael eu datblygu fel
canolfannau i`r Cymunedau - nid addysg ydy`r unig wasanaeth
cyhoeddus y medrwch chi ei leoli mewn ysgolion."

Trueni na fyddai Swyddogion Addysg Gwynedd yn talu sylw i rai sydd a phrofiad ym myd addysg.

Sunday, January 9, 2011

CYWIRO CAMGYMERIADAU SWYDDOGION ADDYSG GWYNEDD

Rydym wedi cywiro`r rhain sawl gwaith o`r blaen
Daeth y ddogfen Cadarnhau Cychwyn yr Ymgynghoriad Statudol,Rhagfyr 2010.
A`R UN CAMGYMERIADAU`N YMDDANGOS ETO.
1. Cost cludo plant o`r Parc i Lanuwchllyn = £15,000 medde nhw.
Y gwir ffigwr yw £20,000 am UN bws mini yn unig.
A hynny CYN y codiad diweddaraf ym mhris petrol.

2.Tair milltir yw`r pellter o`r Parc i Lanuwchllyn, medde nhw.
Ie, o giat ysgol y Parc,ond NID o gartrefi`r plant.

Mae`r ffeithiau cywir wedi eu rhoi iddynt.
Pam nad ydynt yn gwrando?
Yr ydym yn haeddu gwell na hyn gan swyddogion sy`n trefnu addysg ein
plant.

Wednesday, January 5, 2011

CYFARFOD PWYSIG

CYFARFOD PWYSIG
yn
YSGOL Y PARC
Nos Lun, Ionawr 10
am 7 o`r gloch.
Dewch i ddangos cefnogaeth i`r ymgyrch i gadw`r ysgol.
Mynnwn gadw Ysgol y Parc ar agor er lles y plant, a`r gymuned.