Cyngerdd Nadolig Plant Yr Ysgol
Nos Fercher Rhagfyr 8ed am 7 o`r gloch.
Cyflwynir addasiad o`r ddrama Y Stori Fawr.
Hefyd eitemau amrywiol gan y plant.
Croeso cynnes i bawb.
Cofnod o hynt a helynt y frwydr i achub Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala)
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.
Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/
Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com
ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Thursday, December 2, 2010
Friday, November 26, 2010
FFEITHIAU
Mae Cyngor Gwynedd am gau Ysgol Gymunedol y Parc.
Faint o`r cynghorwyr sydd wedi bod yn gweld yr ysgol a`r ardal cyn pleidleisio?
Dywed y Deilydd Portffolio Addysg mai dim ond 3 milltir o daith fydd i `n plant ni o`r Parc
i Ysgol O.M.Edwards yn Llanuwchllyn.
Mae`r Deilydd Portffolio Addysg yn gwybod mai o giat Ysgol y Parc mae`r pellter hwn wedi ei fesur.
Ydi hi`n gwybod faint o ffordd sydd o rai o`r ffermydd i bentref Llanuwchllyn?
Ydi hi wedi bod o gwmpas yr ardal i WELD ble mae cartrefi`r plant?
Mae`n hen bryd iddi hi a`i thim wneud hyn.

NOSON DDIDDOROL
Nos Lun, Tachwedd 29 am 7.30 o`r gloch
Cwmni Drama`r Drindod a Dewi Sant yn cyflwyno`r ddrama
4 waleS / C england
yn Neuadd Gymuned y Parc. Mynediad £4
S4C ddoe, heddiw, ----ac yfory?

GALW ACTORION Y FRO
CWRS DRAMA
dan ofal LLION WILLIAMS
Dydd Gwener, Tachwedd 26 o 4 tan 7 o`r gloch
Yn Neuadd Gymuned y Parc
Mynediad am ddim.

Sunday, November 21, 2010
FFAIR LYFRAU
Cofiwch am y Ffair Lyfrau nos Lun, Tachwedd 22.yn Ysgol Gymunedol y Parc.
Drysau`n agor am 7 o`r gloch.
Cyfle gwych i lenwi`r Hosan Nadolig.
Cyfle hefyd i gefnogi`r plant a`r athrawon.

Friday, November 19, 2010
Cyfarfod Brys
Bydd cyfarfod brys o`r Pwyllgor Amddiffyn nos Sul Tachwedd 21 am 7 o`r gloch.
Mae hwn yn gyfarfod pwysig iawn.
Mae`n brwydr i gadw ein hysgol yn dwyshau.
Ni fydd ildio.
Mae dyfodol ein cymuned a dyfodol ein plant yn holl bwysig.

Tuesday, November 16, 2010
ADDYSG O`R RADD ORAU
Mae ein plant yn derbyn addysg gyflawn a phrofiadau buddiol ac eang yn Ysgol Gymunedol y Parc.
Mae adroddiad Estyn yn cadarnhau hyn.
Faint o gynghorwyr Gwynedd sydd wedi darllen yr adroddiad hwn?
Mae`n hen bryd iddynt dalu sylw i farn yr arbenigwyr.

CEFNOGAETH
Cytuna Cyfeillion Llyn yn llwyr gyda chi fod ysgolion lleol yn bileri sylfaenol pob cymdeithas.
O`i colli, ni all dim ond niwed ddilyn
Yr ydym ninnau`n methu deall pam y mae`r ysfa hon i gau ysgolion llewyrchus wedi gafael yn rhai o gynghorwyr ein Sir.
Gofynnwch a ydym yn cydweld a`ch safbwynt. Yr ateb yw,Ydym, hyd yr ymylon.
Mae Cyfeillion Llyn, o ardal Gymraeg a Chymreig gyffelyb i Benllyn mewn llawer ystyr, yn eich cefnogi i`r carn yn eich brwydr.
Dr Robyn Lewis.
Llywydd Cyfeillion Llyn.

Monday, November 15, 2010
Tudalen newydd ar y wefan
Nodyn byr i gyhoeddi bod tudalen newydd yn crynhoi rhai o'r dadleuon wedi cael ei adio at wefan Achub Ysgol Parc heno yma. (Diolch am y deunydd Penri!)
I weld y wefan cliciwch yma http://www.achubysgolparc.co.uk/

ADDYSG MEWN YSGOL FACH.
Neges i Gynghorwyr Gwynedd gan Elin Haf
Rhoddodd yr addysg a gefais yn Ysgol Gymunedol y Parc wreiddiau i mi.
Mae hyn wedi bod yn rhan anatod o`m llwyddiant
Rhwyfo`r Cefnforoedd,nyrsio plant, archwilydd arbenigol yn Ewrob - gwreiddiau a dyfodd trwy gael fy addysg yn Ysgol Gymunedol y Parc a roddodd i mi`r gallu a`r hyder i fentro ar bob antur, ac i wynebu pob her.
Gadewch i blant eraill y Parc gael yr un fantais a mi.

Angor Cadarn i`n Plant
Ar ol rhwyfo ar draws Cefnfor Iwerydd a Chefnfor India, gwn o brofiad bod cael angor da yn holl bwysig.
Wrth wynebu stormydd a chreigiau, yr angor a`n cadwodd yn ddiogel.
Mae cael eu haddysg yn Ysgol Gymunedol y Parc yn sicr yn rhoi angor cadarn i`n plant hefyd.
Mynnwn gadw Ysgol Gymunedol y Parc ar agor.

Elin Haf Davies.
Sunday, November 7, 2010
Cyfarfod nesaf y pwyllgor amddiffyn - Nos Fawrth, Tachwedd 9fed @ 7:30
Bydd cyfarfod nesaf Pwyllgor Amddiffyn Ysgol y Parc yn cael ei gynnal ar nos Fawrth, Tachwedd y 9fed.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 7:30 yn Neuadd y Gymuned, Parc.

Noson Tan Gwyllt
Cynhaliwyd noson tan gwyllt a chwn poeth gan y Gymdeithas ar y 5ed o Dachwedd.
Cafwyd hwyl fawr,a`r plant a`r oedolion oll wedi mwynhau.

Friday, November 5, 2010
Blog newydd i gofnodi ymgyrch achub Ysgol Parc
Mae Ysgol Gynradd y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal
ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau.
Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.
Diben y Blog newydd yma yw cofnodi hynt a helynt y frwydr a rhoi ffocws i'r ymgyrchu.
Cyfeiriad y Blog yw http://achubysgolparc.blogspot.com/
Mae gwefan wedi ei chreu i fynd ochr yn ochr a'r Blog hefyd.
Cyfeiriad y wefan yw http://www.achubysgolparc.co.uk/
Gallwch anfon eich sylwadau a'ch cefnogaeth drwy e-bostio.
Cyfeiriad e-bost yr ymgyrch yw achubysgolparc@gmail.com

Subscribe to:
Posts (Atom)