Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Parc (ger y Bala) sydd wedi darparu addysg ragorol i blant yr ardal ers sawl cenedlaeth, heddiw o dan fygythiad ei chau oherwydd toriadau. Ond dyw'r gymuned leol ddim am eistedd yn ol a derbyn hynny - mae'r frwydr yn parhau.

Mae gwefan wedi ei chreu i gefnogi'r ymgyrch. Y cyfeiriad yw http://www.achubysgolparc.co.uk/

Gallwch anfon sylwadau a'ch cefnogaeth drwy ebostio achubysgolparc@gmail.com

ANFONWN NEGES GLIR - PEIDIWCH CAU YSGOL PARC

Tuesday, January 25, 2011

YMGYRCH YR IAITH

Bu nifer o blant ac oedolion y Parc yn Rali Tynged Yr Iaith 2
ym Mlaenau Ffestiniog dydd Sadwrn diwethaf.
Yng ngwyneb y bygwth sydd ar ein cymunedau gwledig a`n hysgolion
bach ar hyn o bryd,mae trigolion y Parc yn falch o fedru cefnogi
ymgyrch ymarferol fel hon.

Monday, January 24, 2011

LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchion i Elin Haf ar ennill gradd Doethur Mewn Asesu
Atacsia mewn plant sy`n dioddef o Anhwylderau Metabolig.
Cwblhawodd Elin ei gradd ym Mhrifysgol Llundain.
Mae pawb yn y Parc yn falch iawn o`i llwyddiant.
Rwan bydd yn ail-gydio yn ei gwaith gyda`r European Medicine
Evaluation Group, sy`n datblygu moddion a chyffuriau arbenigol
ar gyfer plant.
Llwyddiant mawr, i un o gyn ddisgyblion Ysgol Fach y Parc.

Wednesday, January 12, 2011

BETH NAD YW``r SWYDDOGION YN EI DDEALL?

Tristwch mawr oedd gweld bod y ffeithiau anghywir a gywirwyd
droeon gennym ni mewn cyfarfodydd cynt yn dal i gael eu hail adrodd.
Dylai pob Cynghorydd Sir gael y ffeithiau cywir o`i flaen CYN pleidleisio.
Sut all neb lunio barn gytbwys heb gael y ffeithiau cywir?

CYFARFOD NOS LUN IONAWR 10

Cafwyd cyfarfod tymhestlog gyda Swyddogion y Pwyllgor Addysg
Diddorol bod 12 wedi dod o`r Swyddfa i`r sesiwn cyntaf.
Arhosodd 9 i`r ddau sesiwn dilynnol.
Llawn iard o geir, ac ar ba gost?
Dewch nawr, MAE posib rhannu ceir, onid oes?.

Tuesday, January 11, 2011

YSGOL Y PARC YN DAL I FRWYDRO

Dyma ddau ddatganiad diddorol ...

1. Leighton Andrews,Gweinidog Addysg y Cynulliad yn dweud yn ddiweddar
"Na ddylid cau unrhyw ysgol os na fyddai hynny`n darparu cyfleusterau Addysg,Profiadau Cymunedol,Ieithyddol a Chymdeithasol CYSTAL os nad GWELL
na`r ddarpariaeth bresennol."

2. Gareth Jones, Cadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu y Cynulliad,
"Nid dyma`r adeg i gau ysgolion(Golwg 18.7.10).Nid oes digon
o ystyriaeth yn cael ei roi i anghenion ehangach cymunedau mewn
cynlluniau ad-drefnu addysg. Y nod ydy nid yn unig sicrhau bod
ysgolion yn aros yn agored ,ond hefyd yn cael eu datblygu fel
canolfannau i`r Cymunedau - nid addysg ydy`r unig wasanaeth
cyhoeddus y medrwch chi ei leoli mewn ysgolion."

Trueni na fyddai Swyddogion Addysg Gwynedd yn talu sylw i rai sydd a phrofiad ym myd addysg.

Sunday, January 9, 2011

CYWIRO CAMGYMERIADAU SWYDDOGION ADDYSG GWYNEDD

Rydym wedi cywiro`r rhain sawl gwaith o`r blaen
Daeth y ddogfen Cadarnhau Cychwyn yr Ymgynghoriad Statudol,Rhagfyr 2010.
A`R UN CAMGYMERIADAU`N YMDDANGOS ETO.
1. Cost cludo plant o`r Parc i Lanuwchllyn = £15,000 medde nhw.
Y gwir ffigwr yw £20,000 am UN bws mini yn unig.
A hynny CYN y codiad diweddaraf ym mhris petrol.

2.Tair milltir yw`r pellter o`r Parc i Lanuwchllyn, medde nhw.
Ie, o giat ysgol y Parc,ond NID o gartrefi`r plant.

Mae`r ffeithiau cywir wedi eu rhoi iddynt.
Pam nad ydynt yn gwrando?
Yr ydym yn haeddu gwell na hyn gan swyddogion sy`n trefnu addysg ein
plant.

Wednesday, January 5, 2011

CYFARFOD PWYSIG

CYFARFOD PWYSIG
yn
YSGOL Y PARC
Nos Lun, Ionawr 10
am 7 o`r gloch.
Dewch i ddangos cefnogaeth i`r ymgyrch i gadw`r ysgol.
Mynnwn gadw Ysgol y Parc ar agor er lles y plant, a`r gymuned.